Y Pwyllgor Menter a Busnes

 

Dyddiad:       12  Hydref 2011

 

Amser:           10.00 hyd 11.00 am

 

Teitl:               Papur tystiolaeth ar y Gyllideb Ddrafft:

Agweddau ar Adfywio ym mhortffolio'r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

 

 

Cyflwyniad

 

  1. Mae'r papur hwn yn darparu gwybodaeth ariannol gefndirol i'r Pwyllgor mewn perthynas â chynlluniau gwariant y dyfodol ar gyfer rhan Adfywio portffolio'r Gweinidog, fel a amlinellir yn y Gyllideb Ddrafft. Mae adfywio strategol, adfywio ffisegol ac adfywio etifeddol yn rhan o orchwyl y Pwyllgor hwn. Mae'r agweddau eraill ar bortffolio'r Gweinidog, sef Tai a Threftadaeth, yn rhan o orchwyl y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

 

  1. Mae Atodiad A yn cynnwys dadansoddiad o'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer y llinellau Adfywio fesul Cam Gweithredu, a fesul Llinell Wariant y Gyllideb (BEL) ar gyfer pob Cam Gweithredu.

 

 Trosolwg o'r Gyllideb

 

  1. Gellir crynhoi ffigurau'r gyllideb ddrafft ar gyfer Adfywio fel a ganlyn:

 

 

Maes y Rhaglen Wariant

  Llinell     sylfaen

2011-12

£’000

Cyllideb  Ddrafft

2012-13

£’000

Cynlluniau Dangosol

   2013-14

£’000

Cynlluniau Dangosol

   2014-15

£’000

Refeniw

14,489

14,336

14,397

14,397

Cyfalaf

55,343

51,477

45,888

45,888

 

 

 

 

 

Cyfanswm

69,832

65,813

60,285

60,285

 

  1. Bu'r broses o bennu'r gyllideb eleni yn un llai manwl. Roedd y cylch cynllunio'r gyllideb a gafodd ei gynnal y llynedd yn un cynhwysfawr, gan fod rhaid torri cyllidebau arfaethedig. Roedd y toriadau a wnaed i'r cyllidebau cyfalaf yn arbennig yn rhai sylweddol.

 

  1. Un newid yn unig a wnaed i'r cynllun 3 blynedd a gafodd ei amlinellu yng nghylch cynllunio'r gyllideb y llynedd. Er mwyn cefnogi ymrwymiadau a wnaed eisoes mewn perthynas ag Awdurdod Harbwr Bae Caerdydd, cafodd £0.3 miliwn o gyllid ar gyfer 2012-13 a £0.1 o gyllid ar gyfer 2013-14 ei drosglwyddo o'r Cam Gweithredu Rhoi Ardaloedd Adfywio Strategol ar Waith  i'r Cam Gweithredu Rheoli'r Broses Adfywio Etifeddol. O ganlyniad, mae'r gyllideb hon wedi cael ei chario ymlaen i 2014-15.

 

Y Rhaglen Lywodraethu

 

  1. Mae rhaglen adfywio Llywodraeth Cymru yn cynnwys cyfres integredig o gamau gweithredu a buddsoddiadau a dargedir sydd wedi’u cynllunio i atal y dirywiad yn ardaloedd difreintiedig Cymru a sicrhau bod yr ardaloedd hynny yn cael eu hadnewyddu mewn modd cynaliadwy.

 

  1. Mae ein cyllideb yn rhannu yn unol â'r llinellau canlynol:

 

Rhoi Ardaloedd Adfywio Strategol ar Waith

 

  1. Mae ein cyllidebau ar gyfer Ardaloedd Adfywio yn cefnogi cyfres o ymyriadau â ffocws, wedi'u cynllunio ar gyfer ardaloedd penodol, mewn rhannau o Gymru lle yr ydym o'r farn y gallwn gydweithio ag asiantaethau lleol i fynd i'r afael ag angen difrifol, gan gynnwys, yn benodol, achosion lle ceir mwy nag un math o amddifadedd. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i ddatblygu a chyflwyno cynlluniau gweithredu cydgysylltiedig a chyfannol i fynd i'r afael ag anghenion lleol a chyfleoedd a geir yn lleol, gan ddefnyddio ein cyllid i ysgogi buddsoddiad ychwanegol.  Ar hyn o bryd, mae gennym saith Ardal Adfywio (Blaenau'r Cymoedd, Cymoedd y Gorllewin, Môn a Menai, Arfordir Gogledd Cymru, Aberystwyth, Abertawe a'r Bari). Caiff buddsoddiadau o'n Hardaloedd Adfywio eu defnyddio fel arian cyfatebol ar gyfer prosiectau a ariennir gan Ewrop; mae'r prosiect mwyaf o’u plith yn rhan o Barc Rhanbarthol y Cymoedd, sef partneriaeth yr ydym yn ei chynnal ar ran mwy na 40 o sefydliadau.

 

Rheoli'r Gwaith o Sefydlu Ardaloedd Adfywio Etifeddol

 

  1. Rydym hefyd yn darparu cyllid ar gyfer dau brif faes â blaenoriaeth arall, sef:

 

·         Newport Unlimited - cyllid ar gyfer yr unig Gwmni Adfywio Trefol (URC) yng Nghymru, sef cwmni y mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd yn berchen arno ar y cyd. Cafodd URC ei sefydlu yn 2003 i weithio gyda'r sector cyhoeddus a'r sector preifat i wireddu newid ffisegol sylweddol ac i gryfhau economi Casnewydd drwy brosiectau adfywio i wella'r dirwedd, creu swyddi newydd, denu buddsoddiad a sicrhau bod y ddinas yn llewyrchus yn y dyfodol;

 

·         Awdurdod Harbwr Caerdydd - cyllid ar gyfer Cyngor Caerdydd i sicrhau bod yr ardal ym Mae Caerdydd a reolir gan Awdurdod yr Harbwr yn cael ei chynnal a'i chadw i safon ddiogel, a bod yr ardal yn gweithredu mewn modd diogel, yn unol â goblygiadau statudol Awdurdod yr Harbwr o dan Ddeddf Morglawdd Bae Caerdydd 1993.

 

 

  1. Mae'r llinell yn y gyllideb ar gyfer Ardaloedd Adfywio Etifeddol dros gyfnod y Cynllun 3 blynedd, o £8.2 miliwn i £8 miliwn (refeniw), ac o £3.4 miliwn yn 2011/12 i £2 miliwn yn 2014/15 (cyfalaf) fel rhan o'r toriadau arfaethedig i'r cyllid ar gyfer Awdurdod Harbwr Caerdydd (refeniw) a Newport Unlimited (cyfalaf). Bydd y rhaglen ar gyfer Newport Unlimited yn dod i ben yn 2013/14, felly ffigur wrth gefn yw'r dyraniad ar gyfer 2014/15 ar hyn o bryd.

 

Groundwork Cymru ac Ymddiriedolaethau Adfywio'r Meysydd Glo

 

  1. Rydym yn darparu cyllid craidd i Groundwork Cymru ac Ymddiriedolaethau Adfywio'r Meysydd Glo.  Ceir mwy o eglurhad o swyddogaethau'r sefydliadau hyn ar eu gwefannau -http://www.wales.groundwork.org.uk/ a http://www.coalfields-regen.org.uk/contactingus/wales/. Mae hyn yn gyfanswm o £1.1 miliwn o refeniw, a £0.250 miliwn o gyfalaf yn 2011/12. Mae'r sefyllfa ar gyfer cyfnod y Cynllun yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd.

 

Cyllid Cyfalaf Cyffredinol Awdurdodau Lleol

 

  1. Yn y cyllidebau Adfywio, ceir llinell ar gyfer cyllid cyfalaf cyffredinol awdurdodau lleol, sy'n gyfanswm o £11.577 miliwn yn 2012-13. Nid yw'r cyllid wedi ei neilltuo, ac o ganlyniad, wedi iddo gael ei ddosbarthu i'r awdurdod lleol fel rhan o'r setliad llywodraeth leol, ni allwn gyfarwyddo'r modd y caiff ei ddefnyddio.

 

 

Edrych ymlaen

 

  1. Wrth i'n cyllidebau cyfalaf leihau, rydym yn gweithio'n agos gyda’n partneriaid i sicrhau ein bod yn nodi'r buddsoddiadau strategol a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn, ac a fydd yn sicrhau bod cynifer â phosibl o gyfleoedd eraill i gael cyllid, er mwyn cynnal y momentwm o newid yn ein Hardaloedd Adfywio.